Ir keffylog
1 A fu ddim ddamwain breiddfyw
2 Mor elyn i serchddyn syw
3 A'r gayaf oeraf iroed
4 Hirddu cas i hyrddio coed
5 Aruthr ei frwydr rhwng dwydref
6 Oer o wâs tâd eiry yw ef
7 Ni bu vn na bai anawdd
8 Ganthaw ai hawdd cuddiaw cawdd
9 Mewn eiry er mwyn aros
10 Yr hên od a rhew y nos
11 Haws oedd mewn castell celli
12 Ar hafnos ei haros hi
13 Gan glywed digrifed ton
14 Y gog lâs ddigoeg leision
15 Annhebig mewn coedwig mai
16 A chyffyr oed o chaffai
17 I rodio tro treigl annun
18 Tan fargod to ty f'eurgvn
19 Pe rhon dranoeth annoethraid
20 [78v] I'm ei chael ammau o chaid
21 I dyddyn gweirdy diddos
22 Ofn oedd wedi'r aef yn nos
23 Na ddigonai chaw chwai chwedlfreg
24 Engyn ar y dyn yn dêg
25 Glân ymddiddan ydd oeddenm
26 Golud gwiw mi am gloywdeg wênem
27 Gwnaeth fraw frychleidr anghyfrwys
28 Dychryn fu i'm gloywddyn glwys
29 Côf gylfinferw goferfwyd
30 Y cyffylog llidiog llwyd
31 Edn brych dilewych liw
32 O adar gayaf ydyiw
33 Modd y gwnaeth mab maeth fy myd
34 wrth ben bagl wrthban bowglyd
35 cychwyn yn brâff i drafferth
36 Adain bôl oddi dan y berth
37 A neitio hyd pan yttoedd
38 Mewn perth ddu nid o'm porth oedd
39 [79r] gan faint trwstgrwydr ar lwydrew
40 Dwy ffilog y tayog tew
41 Tygessym ddwyn deugwyn dig
42 Trist oeddem mai trwst eiddig
43 Golesc frys rhwng llys a llwyn
44 Gwyllt-ruthr frych gwahelldrwyn
45 Treiddiai yn ffrom wrth dommawg
46 Trwyddew dail a rhew yrhawg
47 Aruthr ei chwedl hoccedlaes
48 A mil gar buarth dail maes
49 Ni wyr yn llon ar y fron fry
50 Na lles aml na llais ymy
51 Na cherdd medd y gwych ordderch
52 Drwy nen y llwyn er mwyn merch
53 Ond arwain durwaith meinffrom
54 Y bêr du a bawr y dom
55 Yr edn brych ar adain brudd
56 Bribiwr ai fagl heb rybudd
57 [79v] Ys caffo tro treigl gochfrych
58 Bolltod braff mab alltud brych
Da' ap Glm'